Datrys problemau
Os ydych chi’n profi unrhyw broblemau gyda’r wefan, yn gyntaf, sicrhewch fod eich dyfais a phorwr gwe yn gyfredol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o broblemau drwy glirio’r cache a chwcis ar eich porwr gwe. Y rheswm dros hyn yw ei fod yn storio hen fersiynau o’r wefan er mwyn gwella perfformiad, ond os byddwn yn diweddaru’r wefan, efallai na fydd eich porwr yn nodi’r gwahaniaethau ac yn ceisio llwytho un o’r hen fersiynau.
Sut i glirio eich cwcis a cache
Ar Chrome
- Cliciwch ar y 3 dotyn mewn llinell fertigol ar y gornel dde uchaf
- Cliciwch ar ‘History’
- Cliciwch ar ‘Clear browsing data’ ar y bar ar yr ochr chwith
- Pan fydd hysbysiad yn ymddangos, dewiswch ystod amser a’r opsiynau ‘Cookies and Other site data’ a ‘Cached Images and files’
- Cliciwch ar ‘Clear data’
Ar Microsoft Edge
- Cliciwch ar y 3 dotyn mewn llinell lorweddol ar y gornel dde uchaf
- Cliciwch ar ‘Settings’
- O dan yr opsiwn ‘Clear browsing data’, cliciwch ar ‘Choose what to clear’
- Dewiswch y bocsys ‘Cookies and saved website data’ a ‘Cached data and files’
- Cliciwch ar y botwm ‘Clear’
Ar Firefox
- Cliciwch ar y 3 llinell fertigol ar y gornel dde uchaf
- Cliciwch ar ‘Library’ ac yna ‘History’
- Cliciwch ar ‘Clear Recent History’
- Pan fydd hysbysiad yn ymddangos, dewiswch ystod amser a’r opsiynau ‘Cookies, Cache, etc’.
- Cliciwch ar ‘Clear Now’
Ar Safari
- Ar y bysellfwrdd, pwyswch ‘Command+Y’
- Cliciwch ar ‘Clear browser history’
- Ar yr hysbysiad sy’n ymddangos, dewiswch yr ystod amser ac yna cliciwch ar ‘Clear History’
Y llwybrau byr ar y bysellfwrdd yw:
- Ar gyfer Windows, “Ctrl+Shift+R”
- Ar gyfer Mac, “Command+Shift+E”
Dylai’r camau uchod glirio cache a chwcis eich porwr. Ond, os bydd problemau’n parhau, cysylltwch â ni.
Er y dylai Hunan Wasanaeth Aelodau (HWA) weithio’n iawn gyda’r mwyafrif o ddyfeisiau symudol, ni allwn gefnogi unrhyw ddyfais symudol yn benodol yn sgil yr ystod eang o fersiynau caledwedd a meddalwedd sydd ar gael.