Eich Buddion a phryd y gallwch eu codi*
Clwyd Pensions Fund Logo www.cronfabensiynauclwyd.org.uk chwilio
hafan link_seperator ffurflenni ar-lein link_seperator canllaw i ddefnyddio’r we 7 Medi, 2010
  Clwyd Pension Fund page title logo
  Pa Bryd Y Bydd Modd Imi Ymddeol?
anfonwch e-bost i gyfaill anfonwch e-bost i gyfaill argraffwch y dudalen hon argraffwch y dudalen hon
Mae'r cynllun yn cynnig y posbilrwydd o ymddeol a chymryd eich buddion pan fyddwch mor ifanc a 50, neu aros nes y byddwch yn 75. Ac os byddwch yn dioddef o salwch, does dim isafswm oed o gwbl.

Erys un amod holl bwysig – mae’n rhaid ichi fod yn aelod o’r Cynllun am o leiaf tri mis, oni bai eich bod yn 65 neu wedi trosglwyddo arian o gynllun pensiwn arall.


Ymddeoliad arferol
Yr oed ymddeol arferol yw 65 oed, boed dyn neu ddynes. Byddwn yn amcangyfrif eich buddiannau ar sail eich cyflog terfynol a nifer y blynyddoedd y buoch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn.
Ymddeoliad hwyr:
Er bod y rhan fwyaf o aelodau'r CPLIL yn ymddeol pan fyddant yn 65, mae'n bosibl i chi barhau i weithio a thalu i mewn i'r cynllun tan eich penblwydd yn 75.


Ymddeol ar sail iechyd
Os yw’ch cyflogwr yn gytun na allwch gyflawni’ch swydd eto ar sail iechyd, cewch ymddeol a manteisio ar eich buddiannau, waeth beth yw eich oed. Byddwn yn amcangyfrif eich buddiannau ar sail eich cyflog terfynol a nifer y blynyddoedd y buoch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn – ni fyddwn yn lleihau’ch buddiannau. At hynny, byddwn fel arfer yn rhoi blynyddoedd ychwanegol ichi os ydych wedi bod yn aelod am bump o flynyddoedd neu mwy. Am ragor o wybodaeth, gweler cynyddu aelodaeth”.


*

Ymddeol yn gynnar, ar eich cais
Cewch wneud cais i gael ymddeol pan gyrhaeddwch 50 oed, ond mae’n rhaid cael caniatâd eich cyflogwr hyd at 60 oed.
Rhwng 60 a 65, cewch ymddeol yn wirfoddol, ond mae'n bosibl y bydd gostyngiad yn eich buddion. Cewch ragor o wybodaeth am hyn yn yr adran 'Ymddeol yn Gynnar'.




Diswyddo neu effeithlonrwydd
Cewch ymddeol a manteisio ar eich buddiannau pan gyrhaeddwch 50 oed os yw’ch cyflogwr yn eich diswyddo neu’n cynnig pecyn ymddeoliad cynnar ichi. Byddwn yn amcangyfrif eich buddiannau ar sail eich cyflog terfynol a nifer y blynyddoedd y buoch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn – ni fyddwn yn lleihau’ch buddiannau.


Ymddeoliad Hyblyg
Os ydych yn 50 oed neu drosodd, mae'n bosibl i chi barhau i weithio a chael eich buddion, cyn belled ag y bo'ch cyflogwr y cyntuno naill ai i chi:

Ostwng nifer yr oriau rydych yn gweithio bob wythnos NEU
Gostwng eich gradd

Mae gan eich cyflogwr yr hawl i gynnig ymddeoliad hyblyg i chi. Am ragor o wybodaeth am y cyfleuster hwn, dylech gysylltu a'ch cyflogwr.


Cronfa Bensiynau Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA 01352 702876 Ymwadiad

Web Accessibility Guidelines   ICRA Content Rating   CSS Validation   Link to Direct Gov website   search powered by Google image