| Fel aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod yn perthyn i gynllun pensiwn o’r radd flaenaf, sy’n cynnig pecyn gwarantedig o fuddion.
Ond os oeddech wedi ymuno’n gymharol hwyr yn eich bywyd, neu os ydych yn gobeithio ymddeol yn gynnar, efallai y byddwch am gynyddu’ch buddion. A hyd yn oed os ydych yn hapus gyda’ch buddion ymddeol, efallai byddwch am gynyddu’ch sicrwydd yswiriant bywyd i ofalu am eich teulu. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynyddu’ch buddion, dyma ddarn y wefan i chi!
" Dylech ddechrau pensiwn yn 20 oed
i gael uchafswm y buddion yn 60 oed."
Pa ddewis sy gen i?
Rydyn ni’n cynnig dwy ffordd o gynyddu’ch buddion – mae’r ddwy’n ddigon rhwydd, gan eich bod yn talu amdanyn nhw o’ch cyflog, a gallwch dalu i mewn i fwy nag un ar unwaith os ydych yn dymuno.
Y dewis yw:
Prynu blynyddoedd aelodaeth ychwanegol - Modd o gynyddu’ch buddion yn y Cynllun.
CGYau gyda’r Prudential - Math o fuddsoddi sy’n rhoi mwy o bensiwn i chi ac / neu chyfandaliad.
Ar ôl i chi ddarllen am CGYau a Phrynu Rhagor o Flynyddoedd o Aelodaeth, efallai byddwch am fynd i’r adran o’r enw Dewis yr un iawn i chi i’ch helpu chi i benderfynu. |